21.12.2023

Datblygu cymuned ddysgu wrth-hiliol sy'n ystyriol o drawma

Developing an anti-racist trauma informed learning community

Amserlen Digwyddiadau

Gweler isod am bob sesiwn

Jeffrey Boakye

Araith Gyweirnod Jeffrey Boakye


Bydd y sesiwn hon yn archwilio'r berthynas rhwng hunaniaeth ac ideoleg, gan archwilio sut y gellir hybu gwell dealltwriaeth o hunaniaeth bersonol a dyfeisiau cymdeithasol ehangach er mwyn datblygu systemau cymdeithasol tecach.


Bydd y sesiwn hefyd yn edrych yn benodol ar sut mae ideolegau trechaf yn parhau drwy sefydliadau gan gynnwys addysg, a'r heriau sy'n wynebu'r rheiny ohonom sy'n ceisio cyfiawnder cymdeithasol. Yn olaf, bydd Jeffrey yn ystyried dulliau ar gyfer y ffordd orau o symud ymlaen yn y gwaith hwn a safbwyntiau a all helpu i hybu sgyrsiau sy'n ymddangos yn anodd.


Egwyl

Ystafell drafod

Jeffrey Boakye

Dad-drefedigaethu'r Cwricwlwm

Jeffrey Boakye



Bydd y sesiwn hon yn edrych yn ofalus ar rôl addysg fel sefydliad o ran cynnal ideolegau problemus, ehangach. Bydd yn ystyried y cyd-destunau y lluniwyd addysg fodern ynddynt ac yn archwilio'r egwyddorion dylunio sylfaenol sy'n llywodraethu cynnwys y cwricwlwm.


I'r perwyl hwn, bydd Jeffrey yn dadbacio gwerthoedd craidd ac yn eich gwahodd i feddwl am rôl addysgwyr fel cynhyrfwyr a cheiswyr gwirionedd.


Nina Burrowes

Dysgu myfyrwyr am ganiatâd ac ymateb i aflonyddu rhywiol yn ein coleg

Dr. Nina Burrowes


Bydd y sesiwn hon yn archwilio'r agweddau canlynol ar ganiatâd ac aflonyddu rhywiol:


  • Sut olwg allai fod ar atal aflonyddu rhywiol?
  • Siarad am ganiatâd gyda myfyrwyr
  • Cefnogi myfyrwyr sy'n profi aflonyddu rhywiol

Cwricwlwm

Cymorth Busnes

Cinio

Polly Harrow

Araith Gyweirnod Polly Harrow


Arweinyddiaeth drugarog sy'n ystyriol o drawa: Adeiladu diwylliant gwrth-hiliol drwy lens sy'n ystyriol o drawma.


Bydd y sesiwn hon yn archwilio pwysigrwydd adeiladu cymuned drugarog sy'n ystyriol o drawma yn y Coleg, sydd yn ei dro, yn ein galluogi i feithrin ymagwedd gynhwysol a gwybodus at addysg a chymorth, gan ddeall yn well y rhyng-gysylltiadau rhwng grwpiau ymylol a'r rheiny sydd wedi cael profiad o drawma yn eu bywydau.


Byddwn yn archwilio egwyddorion a chymhwysiad ymarferol symud o fod yn ymwybodol o drawma i fod yn ystyriol o drawma, a phwysigrwydd ymarfer perthynol.


Myfyrdodau Personol

Bydd eich rheolwr llinell yn rhannu gwahoddiad Google Meet gyda chi ac yn hwyluso sesiwn fyfyrio olaf y dydd.

Cyswllt A Ni

Ydych chi'n cael trafferth yn cysylltu?